Wedi misoedd o seiclo drwy’r Americas daeth breuddwyd y cefndryd Rhodri Price a Pedr Charlesworth o seiclo’r byd i ben yn gynnar oherwydd argyfwng y coronafeirws.

Ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru y llynedd fe ymunodd Rhodri Price o Lambed yng Ngheredigion gyda’i gefnder Pedr Charlesworth ar gyfer cymal olaf ei daith o amgylch y byd. Y bwriad oedd seiclo o Beriw i Efrog Newydd i godi arian at elusen iechyd meddwl pobol ifanc, Off the Record Bristol .

Wrth deithio i gyfeiriad Efrog Newydd treuliodd y ddau gyfnod byr yn Riobamba yn Ecwador er mwyn dathlu’r Nadolig cyn dechrau eto ar eu taith.

Tra roedd y coronafeirws yn ymledu ar draws y byd, mae’r ddau yn cydnabod eu bod nhw heb sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa yn syth.

“Am adeg, yn sicr, roeddwn i a phawb yn Ne America yn teimlo ein bod ni’n anorchfygol i’r firws hwn,” meddai Rhodri Price.

Maes awyr yn cau

Ar ôl wythnosau o wylio’r datblygiadau cyrhaeddodd y ddau Costa Rica a daeth hi’n amlwg iawn na fyddai modd iddyn nhw gwblhau eu taith i Efrog Newydd.

“Ar ôl pob galwad adre roedd yna bryder cynyddol. Teulu yn pledio i’r ddau ohonom ddod adre, ond roedd hi’n anodd. Y ddau ohonom wedi dod mor bell, minnau o ffin Periw a Pedr prin wythnosau o orffen ei freuddwyd o seiclo rownd y byd.

“Ar ben hynny roedd yr addewid i’r elusen. Ni allem eu siomi. Roedd y ddau ohonom yn benderfynol o seiclo tan oedd hi’n amhosib.

“Y diwrnod wedyn cefais alwad byddai’n newid y cyfan – y newyddion fod y maes awyr am gau o fewn diwrnodau.”

Ar ôl llwyddo i gael tocyn i Fecsico roedd nod y ddau wedi newid yn llwyr wrth iddyn nhw wneud y penderfyniad anodd o orfod dychwelyd adref yn gynnar.

“Seibiant o’r pedair wal”

Ar ôl hedfan adref bu’n rhaid iddyn nhw hunan ynysu am bythefnos ac, wrth gwrs, mynd ar y beic oedd yr unig ffordd i’r ddau basio’r amser o fod yn sownd yn y  tŷ.

“Yr unig normalrwydd oedd oriau o ymarfer corff ar gefn y beic. Roedd hi’n seibiant o’r pedair wal, ac yn sicr hebddo byddai’r ddau ohonom wedi mynd off ein pennau’n llwyr.”

“Weithiau tra’n trafeili byddai’r ddau ohonom yn breuddwydio am adre, seiclo mewn i Lundain ar ddiwedd y daith hir, dathlu yno efo teulu a ffrindiau. Ond roedd y realiti hwn yn bell o’r freuddwyd.

“Yn sicr nawr y freuddwyd yw’r heol, dychwelyd yn ôl i Costa Rica a seiclo oddi yno rhyw ddydd.”

Darllenwch fwy am antur Rhodri Price ar ei flog diweddaraf ar Clonc360.