Mae Yes Cymru yn cynnal digwyddiadau annibyniaeth heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 18) yn lle’r orymdaith oedd i fod yn Wrecsam.

Bu’n rhaid gohirio’r orymdaith hon a’r un yn Nhredegar ym mis Mehefin oherwydd y coronafeirws.

Yn hytrach, fe fydd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhwng 1 a 2 o’r gloch ar draws sawl platfform, gan gynnwys Facebook, Twitter, Instagram a TikTok.

“Beth am i bawb ohonom fynd ar-lein a chreu corwynt annibyniaeth – postiwch luniau, fideos, caneuon, cerddi, GIFs, syniadau – defnyddiwch yr hashnodau #Annibyniaeth ac #indyWales a bydd annibyniaeth yn amlwg i bawb ei weld,” meddai neges e-bost at aelodau’r mudiad.

Rali Tŷ Ni

Mae Rali Tŷ Ni hefyd yn cael ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, gyda grŵp Facebook newydd wedi’i sefydlu.

Roedd mwy na 2,000 o bobol wedi ymaelodi â’r grŵp cyn i’r wythnos gyntaf ddod i ben.

“Rydyn ni’n deall, wrth gwrs, fod materion mwy brys na chael hwyl wrth hyrwyddo annibyniaeth ar-lein ar hyn o bryd, ond yn ystod y cyfnod tywyll a difrifol yma, mae angen rhywfaint o hwyl i godi calon a breuddwydio am ddyfodol gwell, hyd yn oed os yw hynny dros dro,” meddai Yes Cymru.

“Felly estynnwch eich baner, a welwn ni chi ar-lein ddydd Sadwrn!”