Ysblander Eryri
Rhedwr lleol sef Rob Samuel o Eryri Harriers sydd wedi ennill Marathon Eryri eleni gan gwblhau’r ras mewn 2 awr  36 munud.

Murray Strain o’r Hunters Bog Trotters oedd yn ail mewn 2 awr 38 munud  ac enillydd llynedd Richard Gardiner o Aberdâr ddaeth yn drydydd mewn 2 awr a 41 munud. Kelly Morgan o Bontypridd enillodd ras y merched mewn 3 awr 11 munud.

Yn ôl y trefnwyr roedd  dros 2,000 o gystadleuwyr wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni – y nifer uchaf erioed.

Daeth rhedwyr o bob cwr o’r byd i ddilyn y cwrs 26.3 milltir  i gopa Pen y Pass, i lawr o Ben y Gwryd  i Feddgelert  a  wedyn i Waunfawr. Yna fe roeddyn nhw’n rhedeg i fyny i Fwlch y Groes cyn gorffen yn Llanberis.

Dywed y trefnwyr eu bod yn falch o’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r achlysur gan y gymuned leol.

“Maen nhw’n gorfod wynebu anghyfleustra o ran traffig yn ystod y ras ac yn rhoi cefnogaeth sydd wir ei angen ar gyfer cynnal y digwyddiad,” meddai’r trefnydd Jayne Lloyd.