Mae’r beiciwr Geraint Thomas wedi llwyddo i godi £261,334 i’r Gwasanaeth Iechyd drwy gael pobol i’w noddi i feicio yn ei garej.

Gan ddechrau ddydd Mercher (Ebrill 15) mae Geraint Thomas wedi bod yn beicio am 12 awr pob dydd ers tridiau, gyda’r nod gwreiddiol o godi £100,000.

Mae wedi bod yn cychwyn reidio am 7.30 y bore ac wedi denu cefnogaeth gan un o gorau meibion Caerdydd.

Mae côr Bechgyn Bro Taf wedi cyfrannu £375 at yr achos ac wedi canu anthem answyddogol Geraint Thomas, oedd i’w chlywed pan enillodd y Cymro’r Tour de France yn 2018: