Mae angen cymorth ar y Gweinidog Iechyd wrth fynd i’r afael â’r her o gynnal profion coronafeirws yng Nghymru.

Dyna mae Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ar faterion iechyd, wedi ei ddweud yn ymateb i “fethiannau” Llywodraeth Cymru wrth gyrraedd ei thargedau.

Roedd y Llywodraeth wedi addo cynnal 5,000 o brofion bob dydd erbyn canol mis Ebrill, gyda’r nod o gynnal 9,000 bob dydd erbyn diwedd y mis.

Ond, erbyn dydd Gwener (Ebrill 17), capasiti am 1,300 o brofion bob dydd yn unig sydd yna yng Nghymru, a dim ond tua hanner o’r rheiny sy’n cael eu cynnal.

Galw am gymorth

Yn ymateb i hynny, mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, wedi dadlau bod Vaughan Gething yn “methu” ar ei ben ei hun, a bod angen cymorth arno.

“Dw i ddim yn galw ar i’r Gweinidog Iechyd ymddiswyddo,” meddai, “ond dylai mynd i’r afael a’r diffyg cynnal profion fod yn dasg i un person yn unig.

“Mae hynny’n golygu un person sydd yn medru mynd trwy’r holl sustem o’r dechrau i’r diwedd, a delio â’r rhwystrau yn syth.

“Efallai bod hynny’n galw am eiriau cryf ag ambell un, ailgyfeirio staff, ac ailgyfeirio adnoddau.”

Profion

Mae’r profion dan sylw yn dangos os oes gan berson y coronafeirws ar ddiwrnod y profi, ond nid yw’n dangos os ydyn nhw eisoes wedi eu heintio ac wedi datblygu imiwnedd.

“Tîm o bobol”

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore heddiw (Ebrill 17), mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dadlau nad yw’r Gweinidog yn gweithio ar ei ben ei hun.

“Nid cyfrifoldeb un person yw e,” meddai. “Dw i’n credu bod Vaughan Gething yn gwneud gwaith arbennig o dda. Mae e’n gweithio trwy’r dydd pob dydd. Dw i’n gweld e’n gwneud hynny.

“Ond cyfrifoldeb y cabinet i gyd yw e. Mae’r cabinet yma yng Nghymru yn cwrdd bob dydd. Naw o’r gloch y bore bob dydd. Rydym ni’n dod at ein gilydd ac yn rhannu’r gwaith sydd gyda ni i’w wneud.

“Nid jest un person sy’n gwneud y gwaith yma yng Nghymru. Mae tîm o bobol yn y Llywodraeth. Rydym ni gyd yn dod at ein gilydd. Rydym ni gyd yn gweithio’n galed bob dydd.”

Cystadlu rhyngwladol

Wnaeth Mark Drakeford gydnabod bod Cymru yn dibynnu ar ddarparwyr tramor i gyflenwi’r profion, a bod pethau’n “anodd” am fod “pob gwlad ledled y byd” yn trio cael gafael arnyn nhw.

Ond fe  ategodd bod y Llywodraeth yn “gweithio’n galed bob dydd” i gynyddu nifer y profion sy’n medru cael eu cynnal, a’i bod yn “llwyddo”.

Cafodd 755 prawf eu cynnal yng Nghymru ddydd Mawrth (Ebrill 14), sef y ffigwr diweddaraf, er bod modd cynnal 1,300 ar y mwyaf.

Ymateb Llywodraeth Cymru 

“Ar dydd Mawrth, wnaeth y Gweinidog Iechyd gomisiynu adolygiad o’r gyfundrefn profi i ddarganfod lle mae angen gwelliannau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae disgwyl canlyniad yr adolygiad erbyn diwedd yr wythnos.”