Dyn 60 mlwydd oed yw’r claf coronafeirws cyntaf i adael yr uned gofal dwys yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Cafodd Jeff Morgan, sydd o’r dref, ei gymeradwyo gan staff yr ysbyty yn y dref fore ddydd Iau (Ebrill 16).

Mae fideo yn dangos oddeutu 20 o staff ysbyty yn clapio wrth i Jeff Morgan gael ei dywys o’r uned gofal dwys ar ei wely.

Mae un aelod o staff yn cael ei weld yn rhoi ei fodrwy briodas yn ôl ar ei fys, cyn iddo godi bawd ar y clinigwyr sydd ar hyd y coridor.

Dywed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod Jeff Morgan wedi dod i’r ysbyty ar Ebrill 3 cyn cael ei symud i uned gofal dwys bum diwrnod yn ddiweddarach ar Ebrill 8.

Mewn sylwad ar y fideo dywed y bwrdd iechyd: “Ein claf Covid-19 cyntaf i adael yr uned gofal dwys yn Ysbyty’r Tywysog Charles heddiw.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi cofnodi 1,046 o achosion o’r coronafeirws hyd yn hyn.