Bydd dros hanner cant o gynrychiolwyr busnesau a chwmniau yn ardal Eryri yn cael dysgu mwy am sut mae modd elwa o ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r ardal y flwyddyn nesaf a hynny mewn brecwast busnes drefnwyd ar eu cyfer yn y Ganolfan Reolaeth ym Mhrifysgol Bangor fore Mercher.

Mae’r Brecwast wedi ei drefnu gan Eisteddfod yr Urdd gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith er mwyn i’r cynrychiolwyr gael deall y gwahanol ffyrdd y gallan nhw chwarae rhan yn llwyddiant yr Eisteddfod tra hefyd yn elw o ymweliad yr ŵyl yr un pryd.

Mae gwaith ymchwil gomisiynwyd yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion yn dangos bod 78% o’r Eisteddfodwyr wedi gwario arian mewn busnesau a chwmniau lleol yno yn 2012.

Dywedodd Meleri Wyn Davies, Arweinydd Tîm Cefnogi Busnes Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Mae’r Eisteddfod yn gyfle i ddathlu diwylliant Cymru ac rydym fel Bwrdd yn awyddus i helpu cwmnïau ar draws y dalgylch i ddarparu croeso Cymraeg a Chymreig i Eisteddfodwyr. Mae’r Tîm Cefnogi Busnes eisoes yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, gan gynnig cefnogaeth a chyngor ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda rhagor o fusnesau wrth i ymweliad yr Eisteddfod agosáu.”

Ychwanegodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Mae datblygu perthynas gyda chwmnïau a sefydliadau lleol yn holl bwysig i lwyddiant yr Eisteddfod gan eu bod yn chwarae rhan allweddol wrth greu naws a bwrlwm yn yr ardal. Mae Eisteddfodwyr yn cyfrannu’n helaeth at yr economi leol pan ddaw’r digwyddiad i’r ardal ac rydym yn awyddus i rannu’r wybodaeth hynny yn ogystal â sicrhau fod busnesau yn barod i groesawu’r miloedd o ymwelwyr i Eryri ym mis Mehefin nesaf.”