Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cydnabod er bod “disgyblion sydd yn mynychu ysgolion sydd ar agor yn mwynhau gweithgareddau amrywiol, dydy nhw ddim yn derbyn addysg lawn.”

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, Ebrill 15, dywedodd y Gweinidog Addysg bydd ysgolion yng Nghymru yn parhau ar gau am gyfnod amhenodol.

Er hyn, mae rhai ysgolion yn parhau ar agor, gan gynnwys dros wyliau’r Pasg, er mwyn cefnogi plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.

“Bydd ysgolion ddim yn ailagor tan y bydd hi’n ddiogel i wneud hynny,” meddai Kirsty Williams.

“Fe fydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn debyg o barhau am gyfnod sylweddol.”

Mae mwyafrif ysgolion Cymru wedi bod ar gau ers dydd Gwener, Mawrth 20.

Addysgu ar lein

Dywedodd y Gweinidog Addysg fod ysgolion yn gweithio’n galed i geisio darparu addysg ar lein i ddisgyblion sydd adref.

“Rydym mewn lle da – mae gennym blatfformau digidol o safon byd eang ar gael i’n hathrawon a’n disgyblion.”

Ond dywedodd Kirsty Williams ei bod hi’n gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i geisio datrys unrhyw drafferthion technolegol gall amharu ar addysg plant yng Nghymru.