Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Gymraeg yn dal yn flaenoriaeth yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Maen nhw wedi ysgrifennu llythyr at Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd yn mynnu bod darparu gofal iechyd drwy gyfrwng iaith gyntaf cleifion yn “flaenoriaeth”.

Dywed Gwerfyl Roberts, cadeirydd yr is-grŵp iechyd, “na fu erioed adeg mor bwysig i siaradwyr gael derbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith.”

Mae’n honni y bydd “llawer o gleifion yn dibynnu fwyfwy ar eu mamiaith” mewn cyfnod mor ansicr.

Mae’r Gymdeithas am weld iaith gyntaf cleifion yn cael ei defnyddio wrth rannu gwybodaeth, rhoi cyfarwyddiadau ac i dawelu meddyliau cleifion.

Maen nhw’n dweud bod hyn “er mwyn cynnal cydlyniant cymdeithasol ac ymddiriedaeth mewn awdurdodau cyhoeddus.”

“Nid eilbeth yw cyfathrebu,” meddai’r llythyr.

Ac er bod Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod fod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau enfawr wrth geisio ymdopi â’r pandemig coronafeirws, maen nhw hefyd am weld safonau iaith yn cael eu parchu.

“Brwydr ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol”

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod “brwydro dros yr iaith yn rhan o frwydr ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol”.

Yn y llythyr, maen nhw’n galw ar wasanaethau ieithyddol i “sicrhau cyfiawnder i unigolion”.

Maen nhw nawr am i Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â’r gwasanaethau iechyd cyhoeddus, wneud datganiad sy’n pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau iaith.

Byddai hyn, meddai’r Gymdeithas, yn “atgoffa darparwyr am y ffordd y gall gwasanaethau ieithyddol addas atgyfnerthu eu gallu i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol effeithiol o’r safon uchaf”.