Mae Sioe Môn 2020 wedi cael ei chanslo oherwydd y coronafeirws.

Daeth cadarnhad mewn neges gan y trefnwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl “ystyriaeth lawn” o’r sefyllfa.

“Gyda thristwch, rydym yn cyhoeddi bydd Sioe Môn 2020 yn cael ei chanslo oherwydd sefyllfa COVID-19,” meddai’r neges ar Twitter.

“Mwy o fanylion ynghlwm ac ar y wefan.”

Datganiad

Mae’r trefnwyr wedi ymhelaethu mewn datganiad ar y penderfyniad “anodd iawn” i ganslo’r sioe.

“Roedd yn benderfyniad anodd iawn, ond gyda mesurau llym bellach mewn lle gan y Llywodraeth, yn sicr dyma’r penderfyniad gorau er mwyn sicrhau iechyd, lles a diogelwch ein haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr, gwirfoddolwyr a staff,” meddai’r datganiad.

“Er nad yw’r sioe yn cael ei chynnal nes fis Awst, roedd yn rhaid cymryd penderfyniad buan er mwyn gallu hysbysu arddangoswyr yn ogystal ag ystyried y cyfnod i baratoi’r maes.”

‘Cydnabod pwysigrwydd y sioe’

Dywed y trefnwyr ymhellach eu bod nhw’n “cydnabod pwysigrwydd Sioe Môn ar gyfer rhoi llwyfan i amaethyddiaeth a’r diwydiant ffermio yn lleol”, ac y byddan nhw’n “ystyried opsiynau” ar gyfer digwyddiad gwahanol i’r arfer.

Ymhlith yr opsiynau hynny, meddai’r trefnwyr, mae cynnal digwyddiad llai neu droi at y we ar gyfer sioe rithiol.

Maen nhw’n dweud y bydd unrhyw un sydd eisoes wedi talu am docyn yn cael ad-daliad dros yr wythnosau nesaf ac y gall arddangoswyr gael ad-daliad neu gario eu harcheb drosodd i’r sioe nesaf.

“Byddwn yn dechrau yn syth ar y gwaith o drefnu Sioe penigamp yn 2021, fydd yn cael ei chynnal ar Awst y 10fed ac 11eg 2021.

“Hoffai’r Gymdeithas gymryd y cyfle i ddiolch i’n haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth ddi-flino.”