Fe wnaeth Heddlu’r Gogledd ddal dau yrrwr yn teithio ar gyflymdra o fwy na 100 milltir yr awr dros benwythnos y Pasg.

Daw’r cyhoeddiad er gwaetha’r cyfyngiadau teithio sydd yn eu lle yn sgil y coronafeirws.

Cafodd un gyrrwr ei ddal yn teithio ar gyflymdra o 113 milltir yr awr ar yr A55 yn Llaneurgain.

Dywed yr heddlu iddyn nhw ddal gyrrwr arall yn teithio ar gyflymdra o 101 milltir yr awr ar yr A5 ger Corwen.

Mae Llywodraeth Prydain yn dal i gynghori pobol i beidio â theithio oni bai bod gwir rhaid.