Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân wedi chwalu eu nod o ‘gerdded, rhedeg neu seiclo’ yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi… heb adael eu cartrefi.

Penderfynon nhw ymgymryd â’r her, gan ddefnyddio technoleg Strava, er mwyn codi arian at unedau gofal dwys ysbytai Glangwili a Bronglais.

Ynghyd â nifer o wynebau adnabyddus, fe fu’r aelodau’n cymryd troeon i gerdded rhan o’r daith (‘drwy’ Bontsiân) o 218 o filltiroedd mewn un diwrnod heddiw (dydd Llun, Ebrill 13) fel rhan o her Jog Off Corona.

Roedden nhw’n disgwyl cwblhau’r her rhwng 9 o’r gloch a 5 o’r gloch heddiw, ond roedden nhw eisoes wedi dod i ben erbyn 1 o’r gloch – ac wedi penderfynu mynd amdani eto.

Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn sgil y coronafeirws yn golygu na all pobol adael eu cartrefi heb fod gwir rhaid, ac felly fe fu’r criw yn cwblhau’r her o fewn ffiniau eu cartrefi eu hunain.

Ar y daith gyda nhw roedd Ifan Jones-Evans, y Welsh Whisperer, Geraint Lloyd, Meinir Howells, ynghyd â’r actorion Carwyn Glyn ac Aled Llŷr Thomas o Pobol y Cwm.

‘Cyhoeddiad’

Daeth cadarnhad o gamp y Ffermwyr Ifanc ar eu tudalen Facebook.

“Yn ystod y ddwy awr diwethaf, ry’n ni fel aelodau, arweinyddion a ffrindiau’r clwb wedi cyrraedd Caergybi, cyrraedd yn ôl i Gaerdydd ac ry’n ni nawr ar ein ffordd yn ôl i Bontsiân,” meddai’r neges.

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.”

Maen nhw wedi codi dros £4,500 erbyn hyn.