Mae Ben Lake yn galw am becyn cymorth i ffermwyr i’w helpu i oresgyn effeithiau’r coronafeirws, gan rybuddio y gallen nhw golli gwerth blwyddyn o incwm.

Mae’r sector amaeth yn cyflogi mwy na 52,000 o weithwyr yn uniongyrchol yng Nghymru, ac mae’n rhan bwysig o’r diwydiant bwyd a diod, oedd wedi cynhyrchu £7.4bn mewn refeniw y llynedd gan gyflogi mwy na 240,000 o weithwyr.

Mae llefarydd materion gwledig Plaid Cymru’n rhybuddio nad yw pecyn cymorth y llywodraeth yn rhoi digon o sylw i ddiwydiannau tymhorol, nac yn gostwng costau cymharol uchel y byd amaeth, gan gynnwys cytundebau prydlesu peiriannau ac offer, cyllid asedau ac ad-dalu dyledion.

Mae’n galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno mesurau ariannol ar frys er mwyn cefnogi diwydiannau tymhorol fel amaeth, a chynyddu’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

‘Llai o alw a mwy o bwysau’

“O gig oen i gynnyrch llaeth, mae amaethyddiaeth Cymru wedi wynebu gostyngiad yn y galw a mwy o bwysau ar gyflenwi, sydd yn gwthio’n ffermwyr i ymyl y dibyn,” meddai Ben Lake.

“Er bod mesurau llywodraethau’r DG a Chymru yn rhoi peth cefnogaeth i’r economi yn ehangach, mae diwydiannau hynod dymhorol fel amaethyddiaeth angen ac yn haeddu pecyn unswydd o gefnogaeth economaidd.

“Wedi gaeaf caled lle’r oedd ffermwyr yn brwydro yn erbyn ansicrwydd Brexit a llifogydd, mae’r coronafeirws wedi cau’r drysau yn wyneb economi wledig sydd eisoes wedi dioddef.

“Amaethyddiaeth Cymru yw asgwrn cefn yr economi wledig, lle mae dros 80% o’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae ffermydd yn brynu o fewn cylch o 25 milltir o’r fferm.

“Byddai cwympo amaethyddiaeth yng Nghymru, heb sôn am mewn ardaloedd eraill fel de- orllewin Lloegr a Dwyrain Anglia, yn drychineb i gymunedau gwledig.

“Rhaid i Lywodraeth Prydain adolygu ei fecanweithiau cefnogi presennol i i fusnesau gwledig fel mater o frys, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyllido pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i i ffermwyr Cymru.

“Mae rhannau helaeth o’n heconomi, llawer o’n cymunedau a chymaint mwy yn dibynnu ar ymateb cadarn fydd yn galluogi ein ffermwyr i oroesi’r argyfwng hwn.”