Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dweud iddyn nhw ddioddef lladrad ar eu safle ymarfer ym Mharc Spytty.

Yn ôl y clwb, fe ddigwyddodd yn ystod gwarchae’r coronafeirws ac maen nhw’n apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw roi gwybod i’r heddlu.

“Os yw unrhyw un yn cael cynnig nwyddau Clwb Pêl-droed Casnewydd neu os ydyn nhw’n gwybod rhywbeth am y digwyddiad, maen nhw’n cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu ar 101,” meddai llefarydd.