Amlwch
Cafodd achos arall o E.coli 0157 ei ddarganfod mewn meithrinfa ar Ynys Môn.

Mae wyth o achosion bellach wedi cael eu darganfod ym meithrinfa Tri Ceffyl Bach yn Amlwch a 62 o bobl wedi cael profion i weld os ydyn nhw’n cario’r haint.

Mae’r perchnogion wedi dweud y bydd y feithrinfa ar gau am gyfnod amhenodol ac yn y cyfamser mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus, y bwrdd iechyd lleol a chyngor Ynys Môn yn ymchwilio i achos y salwch.