Ysblander Eryri
Mae dros 2,000 o gystadleuwyr wedi cychwyn rhedeg Marathon Eryri yn Llanberis y bore yma – y nifer uchaf erioed o redwyr i gofrestru ar gyfer y ras sydd unwaith eto eleni yn cynnwys ras ar gyfer ieuenctid.
Bydd rhedwyr o bob cwr o’r byd yn rhedeg 26.3 milltir i gopa Pen y Pass, i lawr o Ben y Gwryd i Feddgelert a wedyn i Waunfawr. Yna fe fyddan nhw’n rhedeg i fyny i Fwlch y Groes cyn gorffen yn Llanberis.
Dywed y trefnwyr eu bod yn falch o’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r achlysur gan y gymuned leol.
“Maen nhw’n gorfod wynebu anghyfleustra o ran traffig yn ystod y ras ac yn rhoi cefnogaeth sydd wir ei angen ar gyfer cynnal y digwyddiad,” meddai’r trefnydd Jayne Lloyd.
Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn ystod y dydd yn cael ei ddosbarthu i achosion da yn lleol.