Mae heddluoedd y Gogledd a Dyfed-Powys yn rhybuddio y byddan nhw’n cadw gwyliadwriaeth ar ffyrdd i rwystro teithio diangen dros benwythnos y Pasg.

“Byddwn yn cynnal presenoldeb cryf ar ffyrdd drwy holl ardal yr heddlu y penwythnos yma er mwyn sicrhau mai dim ond y rheini sydd â gwir angen fydd yn teithio,” meddai’r Arolygydd Andy Williams o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae mwy o bobl ar y ffyrdd hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd cerbydau’n torri i lawr neu mewn damwaith, gan roi straen ychwanegol ar y gwasanaethau brys.

“Rydym mewn argyfwng iechyd cyhoeddus, gyda llawer o fywydau yn y fantol os nad yw pobl yn parhau i ddilyn canllawiau’r llywodraeth.”

Yr un oedd neges Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes.

“Mae’r Pasg yn draddodiadol yn amser prysur iawn yng ngogledd Cymru ac rydym fel arfer yn croesawu llawer o ymwelwyr i’r ardal,” meddai.

“Ond mae angen i bawb chwarae eu rhan i rwystro’r Coronafeirws rhag lledaenu.

“Fe fydd ein plismyn allan ar patrol dros gyfnod y Pasg, yn cyd-drafod a lledaenu’r neges gyda’r cyhoedd.

“Fodd bynnag, lle na bydd pobl yn cydymffurfio, yna byddwn yn dweud wrth bobl am fynd adref, ac os bydd angen, byddwn yn cyflwyno dirwy.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Arfon Jones fod lleiafrif bach yn dal i anwybyddu canllawiau’r Llywodraeth.

“Fy neges yw i bawb aros adref i achub bywydau, ac annog eu ffrindiau a’u teulu i wneud yr un fath,” meddai.