Ers i argyfwng Cofid -19 ddechrau mae yna ddiffyg rhyngwladol wedi bod mewn cyflenwadau offer diogelwch, gan gynnwys ‘saniteiddiwr’ dwylo.

Gydag alcohol cryf iawn yn un o’r prif gynhwysion, roedd distyllwyr mewn sefyllfa dda i helpu i ateb y galw dros y tymor byr.

Dyma’n union y mae Distyllfa Dyfi yng Nghorris ger Machynlleth wedi ei wneud.

Yn ôl y ddistyllfa, fe drafodon nhw yn fanwl gyda chyrff llywodraethol cyn cynhyrchu dau lwyth yn arbennig i’w rhoi yn rhad ac am ddim i wasanaethau rheng flaen lleol.

Ymhlith y rhai a dderbyniodd y cynnyrch, roedd:

  • cartrefi gofal
  • meddygon teulu
  • gwasanaeth heddlu ac ambiwlans
  • ysbytai Machynlleth a Dolgellau
  • swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol

Yn gyfan gwbl, dosbarthwyd hylif glanweithiol Distyllwyr Dyfi i 31 o sefydliadau lleol gwahanol.

Rhoi nid gwerthu

“Gyda gwerthiant wedi ei effeithio mor ofnadwy gan yr argyfwng” meddai Pete Cameron, un o sefydlwyr y ddistyllfa, “awgrymwyd y dylen ni werthu hylif glanweithiol.

“Ond fe benderfynon ni roi yr holl gyflenwad rydyn ni wedi ei gynhyrchu am ddim, felly roedd yn gallu cyrraedd y rhai oedd ei angen fwyaf yn gyflym.”

Mae Distyllfa Dyfi yn adnabyddus fel arfer am gynhyrchu jin, ac maen nhw wedi ennill teitl Jin Gorau Prydain ddwy waith.