Mae cwmni gosod llety gwyliau ar-lein yn parhau i hysbysebu lleoliadau ar draws Cymru ar gyfer cyfnod y Pasg – er mawr dicter i Liz Saville Roberts.

Er i’r lockdown ddod i rym, a galw ar dwristiaid i beidio teithio i Gymru yn ystod y pandemig, mae Airbnb eto i dynnu i lawr ddwsinau o hysbysebion.

Gwelwyd un hysbyseb, sydd wedi ei dynnu i lawr erbyn hyn, yn annog “dihangwyr o ddinas Covid19” i ddod i’w llety yn Harlech.

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, wedi bod yn ymgyrchu ers wythnosau i gwmnïau gwyliau mawr roi taw ar hysbysebu am y tro.

Mae hi wedi cysylltu ag Airbnb i drafod y mater.

‘Ymddygiad anghyfrifol’

Mae hi’n galw ar y wefan i wrthod unrhyw logi cyn penwythnos y Pasg, gan ei bod yn ofni y gallai olygu cynnydd mewn pobol yn ceisio ymweld â’i hetholaeth.

Mae’n pryderu am fynediad pobol i gyfleusterau gofal iechyd a meddyginiaeth, yn ogystal â thensiwn cynyddol mewn cymunedau.

“Newydd godi mater perchnogion Airbnb yn torri’r rheolau ac yn annog teithio nad yw’n hanfodol i’m hetholaeth gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru,” meddai Liz Saviile Roberts.

“Ni ddylai unrhyw ddarparwr Airbnb fod yn hysbysebu eu heiddo yn ystod yr argyfwng iechyd hwn.

“Ni ddylai sefydliadau fel Airbnb alluogi’r ymddygiad anghyfrifol hwn. Nid gwyliau cenedlaethol ydy hwn ond argyfwng cenedlaethol.

“Rwyf hefyd wedi cysylltu yn uniongyrchol â Airbnb.”