Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant ar-lein ar ymdrin â thrais yn y cartref yn rhad ac am ddim i weithwyr rheng flaen ledled Prydain.

Mae’r hyfforddiant wedi ei greu ar gyfer y rhai sy’n delio ag achosion ymhlith pobol hŷn yn ystod gwarchae’r coronafeirws.

Mae prosiect ‘Dewis’ wedi ei leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, ac mae wedi bod yn darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb ar drais a cham-drin yn y cartref yn ddiweddarach mewn bywyd i bron i 6,000 o weithwyr o’r sector statudol a’r trydydd sector am y pum mlynedd diwethaf.

Cynnydd yn y galw

Oherwydd yr amgylchiadau diweddar, yn ôl y Brifysgol, fe fu cynnydd yn y galw am yr hyfforddiant yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae’n dilyn pryder y gallai’r argymhellion i aros gartref a hunanynysu arwain at fwy o achosion o gam-drin yn y cartref, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn a grwpiau bregus.

Yn ôl datganiad gan Brifysgol Aberystwyth, mae’r pecyn hyfforddi bellach yn cael ei ddarparu ar-lein i ystod o wasanaethau sy’n cynnig cefnogaeth i bobol hŷn, gan gynnwys arbenigwyr ar gam-drin yn y cartref, timau diogelu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ledled gwledydd Prydain.