Bydd rhagor o fusnesau yn derbyn grantiau coronafeirws brys trwy eu hawdurdodau lleol.

Mae busnesau wedi derbyn bron i £150 miliwn mewn cymorth grant yn wythnos gyntaf y cynllun cymorth busnes.

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi diolch i’r awdurdodau lleol am eu cymorth i helpu i sicrhau bod y grantiau ar gael yn gyflym i fusnesau bychain sydd wedi cael eu heffeithio gan y feirws.

Mae bron i 11,000 o gwmnïau wedi derbyn cyllid fydd yn eu helpu i ymdopi ag effaith y feirws.

Bydd rhagor o fusnesau yn derbyn grantiau coronafeirws brys trwy eu hawdurdodau lleol, sy’n dosbarthu’r cyllid ar ran Llywodraeth Cymru.

  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd mewn adeiladau â gwerth adwerthol o rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000.
  • Bydd grant o £10,000 ar gael i filoedd o fusnesau yng Nghymru, sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo pecyn gwerth £1.7bn o gymorth i fusnesau i’w helpu nhw i oroesi’r coronafeirws, ac mae hyn yn cynnwys grantiau ar gyfer busnesau bychain a blwyddyn o wyliau ardrethi.

 

Amser anodd iawn

“Mae hwn yn amser anodd iawn i fusnesau ym mhob rhan o Gymru ac fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo’n llawn i’w cefnogi I ddelio gyda’r argyfwng coronafeirws,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennym yn amrywiol a bydd yn hollbwysig i gael y gymuned fusnes drwy’r cyfnod anodd hwn.

“Mae Awdurdodau Lleol yn gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod cwmnïau yn derbyn y grantiau hyn a hoffwn ddiolch iddynt am ymateb i’r her a gwneud popeth y gallant i gael yr arian allan mor gyflym â phosibl i’r rhai sydd ei angen.

Yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, fe wnaeth Llywodraeth Cymru “ymrwymiad i gwtogi’r gwaith gweinyddol ac i gael yr arian allan i fusnesau yn gyflym ac rwy’n falch ein bod yn gwneud hynny”.