Mae elusen Cymorth i Ferched Cymru wedi mynegi eu pryder am fenywod a phlant yn sgil y canllawiau llym i aros gartref oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl yr elusen, bydd ymbellhau cymdeithasol a hunan ynysu yn cael effaith sylweddol ar fenywod a phlant sydd yn dioddef trais a chamdriniaeth.

Yn anffodus nid yw cartref yn le diogel i lawer o fenywod a phlant  sydd yn byw gydag effeithiau trais, meddai Cymorth i Ferched. I’r unigolion yma bydd yr amser yma’n amser dychrynllyd, a bydd sawl elfen o ynysu gan gynnwys torri trefn gwaith dyddiol ac ansicrwydd ariannol yn cynyddu’r rheolaeth, trais a mathau eraill o gamdriniaeth.

“Mae Cymorth i Ferched Cymru eisiau i oroeswyr wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Dawn Jeffrey, Cyfarwyddwraig Cymorth i Ferched Cymru.

“Mae cymorth arbenigol dal ar gael i’ch cefnogi chi. Er bod ein gwasanaethau yn gorfod newid y ffordd maen nhw’n darparu cefnogaeth i’r goroeswyr oherwydd yr argyfwng Covid-19. Maen nhw’n gwneud gwaith arbennig i gadw’r gwasanaeth, gan gynnwys noddfa a chefnogaeth therapiwtig.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau fod y gwasanaeth cefnogol yma’n parhau ar agor ac ar waith. Mae hyn yn golygu sicrhau fod gan staff fynediad i ofal plant prif weithwyr, offer diogelwch personol a chyllid i’w helpu nhw i addasu eu gwasanaeth.”

Sefyllfa gartref yn ‘dwysau’ i rai

Yn ôl yr elusen “Live Fear Free” mae eu llinell gymorth hwythau yn dal ar agor yn ystod y cyfnod hwn ac yn derbyn galwadau yn ol yr arfer.

“Mae rhai galwyr yn crybwyll fod Covid-19 yn dwysau’r sefyllfa gartref ac rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn hyn o beth wrth i fesurau Covid-19 barhau,” meddai Ann Williams, rheolwraig ‘Live Fear Free Helpline’.

“Bydd camdrinwyr sydd yn rheoli yn barod adref, yn defnyddio’r mesurau yma i ymestyn eu rheolaeth ac rydym fwy na thebyg am weld cynnydd mewn camdriniaeth corfforol hefyd.

“Gyda chyswllt cymdeithasol a’r cyfle i fynd allan yn brin mae cyfle i oroeswyr fynd i chwilio am gymorth gan ffrindiau neu deulu wedi ei gyfyngu, neu iddyn hwythau sylwi fod y gamdriniaeth yn digwydd.

“Er bod goroeswyr ac eraill yn parhau i gysylltu â ni, rydym yn bryderus iawn am rai goroeswyr sydd efallai ddim yn medru gwneud galwadau ffôn tra eu bod nhw’n hunan ynysu gyda’u camdrinwyr, ac rydym yn awyddus iddyn nhw wybod fod  yna opsiwn ‘webchat’ neu tecst ar gael i’r rhai sydd yn ei chael hi’n haws i gysylltu fel hyn.”

“Hefyd, gall cymdogion, ffrindiau a theulu sydd yn poeni am rywun ein ffonio ni a holi am gyngor, rydym angen i bawb yn y gymuned i edrych allan am y rhai sydd yn dioddef camdriniaeth ar hyn o bryd.”