Mae camau gorfodi wedi’u cymryd yn erbyn tri busnes ym Mhowys ar ôl iddynt fethu cydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19 a gwrthod cau, yn ôl Cyngor Sir Powys.

Ym mis Mawrth fe gynyddodd Llywodraeth Prydain y mesurau i atal lledaenu’r coronafirws ac achub bywydau drwy orfodi sawl busnes a lleoliadau fel tafarndai a gwestai i gau.

Ond er gwaetha’r mesurau diweddar, mae’r tri busnes dan sylw wedi parhau â’u busnes fel arfer, ac felly o ganlyniad mae ystod o gamau gorfodi wedi’u rhoi ar waith yn cynnwys cyhoeddi hysbysiadau gwahardd a hysbysiadau cosb penodedig.

‘Siomedig’

Wrth ymateb i’r digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd James Evans, yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio: “Mae’r mwyafrif helaeth o fusnesau ledled y Sir yn cydymffurfio â’r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fis diwethaf a hoffwn ddiolch iddynt am hyn.

“Mae’r mesurau yn eu lle am resymau da – i arbed bywydau.  Mae’n siomedig iawn bod rhai busnesau am beryglu bywydau pobl Powys trwy aros ar agor.

“Nid oedd gennym unrhyw ddewis ond i gymryd camau gorfodi yn erbyn y tri safle hyn ar ôl iddynt barhau i anwybyddu’r mesurau.

“Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau’r Sir lle y gallwn yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen a byddwn yn cymryd y camau priodol yn erbyn y rhai sy’n diystyru’r mesurau hanfodol hyn ac yn rhoi bywydau pobl mewn perygl.”