Mae disgwyl i Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen, gael ei benodi i swydd flaenllaw yng nghabinet cysgodol Llafur yn San Steffan.

Mae’n un o nifer o wynebau newydd allai gael eu penodi i gabinet cyntaf Syr Keir Starmer, a gafodd ei ethol ddoe yn olynydd i Jeremy Corbyn.

Enillodd yr arweinydd newydd 56.2% o’r bleidlais, gan drechu Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.

Ymhlith y rhai eraill a allai gael eu penodi i’r swyddi pwysicaf mae Anneliese Dodds.

Mae disgwyl i’r arweinydd newydd gyfarfod â’r prif weinidog Boris Johnson yr wythnos nesaf i drafod y coronafeirws.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Nick Thomas-Symonds ei eni yn Ysbyty Panteg a’i fagu yn ardal Blaenafon.

Ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen, aeth yn ddarlithydd Gwleidyddiaeth yn y brifysgol ac mae’n awdur cofiannau Aneurin Bevan a Clement Attlee.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Torfan yn 2015 ac fe gafodd ei ganmol yn helaeth am ei araith gyntaf yn San Steffan.

Cafodd ei benodi’n llefarydd Cyflogaeth cyn mynd yn Gyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol ac yna’n llefarydd diogelwch y blaid.