Mae Cymru’n paratoi 7,000 o wlâu ychwanegol wrth i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru rybuddio bod disgwyl i nifer y bobol sydd wedi’u heintio godi eto.

Mae’r capasiti ar gyfer gofal critigol wedi mwy na dyblu, ac mae 1,000 o beiriannau anadlu wedi cael eu harchebu.

Mae 1,300 o gyn-weithwyr y Gwasanaeth Iechyd eisoes wedi ymateb i’r alwad ar iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith, ac mae 1,200 o feddygon teithiol yn paratoi i helpu’r Gwasanaeth Iechyd a chael eu cynorthwyo gan feddygon dan hyfforddiant.

Mae nifer y gwlâu sydd ar gael i’w defnyddio ar gyfer gofal critigol a pheiriannau anadlu yng Nghymru wedi mwy na dyblu, gyda mwy na 350 o wlâu eisoes ar gael ac oddeutu 48% ohonyn nhw’n cael eu defnyddio a hanner y rheiny’n cael eu defnyddio ar gyfer cleifion coronafeirws.

Mae gan ysbytai Cymru 415 o beiriannau anadlu a 349 o beiriannau anaesthetig, ac mae dros 1,000 o beiriannau anadlu’n cael eu caffael ar hyn o bryd ar y cyd â Llywodraeth Prydain.

Beth yw cynlluniau’r byrddau iechyd?

Mae pob bwrdd iechyd yn cynyddu eu capasiti drwy sicrhau rhagor o wlâu, codi ysbytai maes a chydweithio â’r sector annibynnol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi sicrhau 2,000 o wlâu yn Stadiwm Principality, tra bydd Ysbyty’r Grange yn cael ei agor yn gynnar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn sicrhau 350 yn rhagor o wlâu, gyda phartneriaeth ag ysbyty lleol yng Nghasnewyd yn sicrhau 36 yn rhagor.

Bydd lle i 870 o wlâu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Venue Cymru yn Llandudno, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Bangor.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg yn creu lle i 900 o wlâu ychwanegol yng Nghanolfan Undeb Rygbi Cymru yng ngwesty’r Vale ac yn defnyddio ysbyty Hensol ar yr un safle, Tŷ Trevithick yn Abercynon a chartrefi gofal a gwlâu cymunedol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu sicrhau 660 o wlâu ychwanegol yn stadiwm rygbi Parc y Scarlets a safle gwyliau Bluestone yn Sir Benfro, Canolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac Ysbyty Werndale yng Nghaerfyrddin.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd mwy na 1,400 o wlâu yn Academi Chwaraeon Llandarcy, Stiwdio’r Bae ac Ysbyty Sancta Maria.

Ym Mhowys, fe fydd gwlâu ychwanegol ar gael mewn cymunedau lleol.

Ymateb

 Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud iddo gael ei “syfrdanu” gan yr ymateb i’r cais am gymorth.

“Mae hyn yn atgoffa mewn modd gostyngedig o’r ymrwymiad i’n staff iechyd a gofal,” meddai.

“Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yng nghyflymdra a byrder yr ymateb ledled Cymru i baratoi gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol i ateb yr heriau sydd ar droed yn sgil y coronafeirws.

“Yn yr amserau hynod o llwm hyn, byddai’n hawdd iawn anghofio beth sydd wedi’i gyflawni mewn cwta ychydig wythnosau, a’r cynnydd enfawr wrth baratoi’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer y coronafeirws.

“Byddwn ni’n ddyfal yn ein paratoadau ar gyfer y diwrnodau a’r wythnosau o’n blaenau ond mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud.

“Mae ein staff iechyd a gofal, gwirfoddolwyr a busnesau yng Nghymru, ac yn wir ledled y Deyrnas Unedig, yn dod ynghyd mewn ffyrdd eithriadol i ateb yr argyfwng eithriadol yma ac i ofalu am bobol, paratoi gwasanaethau, ac i warchod cymunedau.

“Bydd pob cyfraniad yn ein helpu ni i achub bywydau a dw i’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sydd ynghlwm.”