Mae nifer o aelodau blaenllaw o Lafur Cymru, gan gynnwys y prif weinidog Mark Drakeford, wedi llongyfarch Syr Keir Starmer, arweinydd newydd y Blaid Lafur.

Daw’r llongyfarchiadau yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey ar ddiwedd y ras i olynu Jeremy Corbyn.

Mae Mark Drakeford yn galw ar aelodau’r blaid i gefnogi’r arweinydd newydd a’i ddirprwy Angela Rayner er mwyn dod i rym yn San Steffan.

Ymhlith aelodau eraill Llafur Cymru sydd wedi ei longyfarch mae’r dirprwy arweinydd Carolyn Harris, a Christina Rees, llefarydd materion Cymreig y blaid yn San Steffan.

‘Adeg hanfodol i’n gwlad’

“Anfonaf longyfarchiadau gwresog o Gymru at Keir ar ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur,” meddai Mark Drakeford.

“Daw Keir yn arweinydd ar adeg hanfodol i’n gwlad.

“Bydd ei arweiniad yn y Senedd yn hollbwysig dros y misoedd i ddod wrth i ni ymateb i ymlediad y coronafeirws, ac yna wrth i ni adeiladu’r gymdeithas fwy hafal a chyfiawn sydd, does bosib, yn gorfod dilyn.

“Pan fydd hyn ar ben, does dim mynd yn ôl i’r hen drefn.

“Mae’r argyfwng yn dangos nad oes modd ei ddatrys drwy rym y farchnad ond wrth i bobol ddod ynghyd i weithredu er lles yr achos cyffredin.

“Nid y bobol rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw i achub ein bywydau sy’n mynd adref â bonws chwe ffigwr; maen nhw ymhlith y gweithwyr sy’n ennill y cyflogau isaf yn y wlad.

“Rhaid i’r economi fyddwn ni’n ei chreu ar ôl i’r coronafeirws ddod i ben gyflwyno cymdeithas decach a mwy hafal, lle mae gwobrau’n cyfateb i’r cyfrifoldebau rydyn ni’n gofyn i bobol eu cyflawni.

“Rwy’n gwybod fod gennym ni, gyda Keir, arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig a fydd yn parhau i sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru ac yn cefnogi gwaith Llywodraeth Lafur Cymru wrth gyflwyno er lles pobol Cymru.”

Mae Mark Drakeford hefyd wedi llongyfarch Angela Rayner, dirprwy arweinydd newydd y Blaid Lafur.

“Bydd ei hegni a’i thosturi yn gaffaeliad i’r blaid, ac edrychaf ymlaen at ymgyrchu gyda hi ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod.”

Negeseuon gan Carolyn Harris a Christina Rees

Yn ei neges hithau, dywed Carolyn Harris ei bod hi wrth ei bodd fod Syr Keir Starmer wedi’i ethol i olynu Jeremy Corbyn.

“Dw i wedi bod yn falch o weithio ochr yn ochr â Keir drwy gydol yr ymgyrch arweinyddol hon, ac rwy’ wrth fy modd iddo gael ei ethol heddiw yn arweinydd newydd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Trwy gydol yr ymgyrch hon, mae Keir wedi dangos yr urddas, gwytnwch, ymrwymiad a’r gallu sydd eu hangen ar ein plaid a’n gwlad.

“Mae’r canlyniad hwn wedi’i ennill drwy waith caled ond mae’n gwbl haeddiannol ac mae maint y fuddugoliaeth yn dangos cyrhaeddiad ac apêl gweledigaeth Keir ledled y mudiad Llafur.”

Yn ôl Christina Rees, mae Syr Keir Starmer “yn ffrind ac yn gydweithiwr” ac mae’n dweud ei bod hi’n falch o gael ei enwebu.

“Mae gan Gymru a Llafur Cymru gefnogwr brwd yn Keir,” meddai.

“Rwy’n gwybod o gydweithio â fe yn y cabinet cysgodol ei fod e’n deall datganoli, yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Lafur Cymru ac yn deall pwysigrwydd parchu’r ddau bob amser.”