Mae rhybudd yn Sir Gaerfyrddin y bydd yr awdurdodau’n gweithredu’n llym yn erbyn unrhyw dafarn sy’n agor ei drysau yn ystod gwarchae’r coronafeirws.

Dywed y cyngor eu bod nhw’n barod i gau busnesau’n barhaol neu roi dirwyon sylweddol os nad ydyn nhw’n dilyn y drefn.

Mae tafarnau, bariau a chlybiau wedi’u gorchymyn i gau gan Lywodraeth Prydain wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â’r ymlediad.

Mae awdurdodau lleol yn cydweithio â’r heddlu er mwyn gweithredu’r gwaharddiad, gan gynnwys ymweld â safleoedd ar hap.

Bydd unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n ymgasglu ger tafarnau hefyd yn cael dirwy.

‘Mae’r neges yn glir’

“Mae’r neges yn glir, mae angen i ni gyd chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn coronafeirws ac aros gartref,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd.

“Ni fyddwn yn meddwl ddwywaith am gymryd camau yn erbyn safleoedd sy’n credu nad yw’r rheolau’n berthnasol iddyn nhw.

“Mae’r busnesau hyn a’r bobl sy’n eu defnyddio yn peryglu eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill.

“Bydd unrhyw fusnes yn Sir Gaerfyrddin sy’n torri’r rheolau nid yn unig yn wynebu camau cyfreithiol ond hefyd bydd ei drwydded alcohol yn cael ei dirymu, sy’n golygu y bydd y busnes yn cau’n barhaol.

“Yn yr un modd, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn rhoi dirwy i unrhyw un sy’n cael eu dal yn ymgynnull yn y safleoedd hyn.

“Rydym yn apelio at ddeiliaid trwyddedau a’r cyhoedd am eu cydweithrediad. Mae hwn yn gyfnod anodd, ond trwy weithio gyda’n gilydd byddwn yn dod trwy’r argyfwng hwn.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am fusnesau’n gweithredu’n anghyfreithlon ffonio’r cyngor ar 01267 234567, neu e-bostio publicprotection@carmarthenshire.gov.uk

Ac mae’r cyngor yn dweud bod arian ar gael i fusnesau sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol drwy fynd i newsroom.carmarthenshire.gov.wales/coronavirus.