Cafodd beiciwr modur ei ladd neithiwr (nos Wener, Ebrill 3) yn dilyn gwrthdrawiad â bws yn ardal Bae Caerdydd.

Fe ddigwyddodd toc ar ôl 6.30 ger cyffordd yr A4119, pan gafodd y beic KTM RC8 ei daro.

Bu farw dyn 34 oed yn y fan a’r lle er i’r Gwasanaeth Ambiwlans geisio’i achub, ac mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.