Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf i orfodi cyflogwyr i sicrhau bod gweithwyr ddwy fetr wahân yn ystod ymlediad y coronafeirws, yn ôl Mark Drakeford.

Dywed prif weinidog Cymru y bydd y ddeddf, y gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain, yn gofyn i gyflogwyr “roi anghenion eu gweithwyr yn gyntaf” pan ddaw i rym ddydd Llun neu ddydd Mawrth nesaf.

Yn ei gynhadledd coronafeirws ddydd Gwener (Ebrill 3), dywedodd fod y ddeddf newydd yn ymateb i bobol yng Nghymru fu’n dweud eu bod yn pryderu am eu hiechyd yn y gweithle.

Bu farw 24 o gleifion ddydd Gwener ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n golygu bod 141 o farwolaethau yng Nghymru, a 345 o achosion newydd, gan ddod â’r cyfanswm i 2,466.

‘Rhaid cydymffurfio’

“Rydym am gyflwyno deddf i gadw gweithwyr ddwy fetr ar wahân yn y gweithle, a bydd yn rhaid i gyflogwyr gydymffurfio gyda’r rheol dwy fetr,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd ynghyd â’r rheoliadau, a bydd y rheoliadau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn dod i rym naill ai nos Lun neu fore dydd Mawrth.”