“Rydym yn gofyn i’n rhoddwyr gwaed anhygoel fynd y filltir ychwanegol – yn llythrennol – i helpu ein Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Dyna mae Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, wedi ei ddweud wrth i’r corff addasu i ymdopi â’r coronafeirws.

Gan amlaf mae’r gwasanaeth yn casglu gwaed mewn 30 lleoliad ledled Cymru bob wythnos, ond o hyn ymlaen bydd hyn yn digwydd mewn pum canolfan rhanbarthol.

Bydd y canolfannau mewn lleoliadau gwahanol bob wythnos, wedi cael eu haddasu’n llawn ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, a byddan nhw’n cael eu glanhau ar ôl bob sesiwn.

“Taith hanfodol”

Mae’r Cyfarwyddwr yn cydnabod bod yr haint – a’r canllawiau i’w threchu – yn peri sawl her, ac mae wedi pwysleisio bod teithio i roi gwaed yn cyfri’n “deithio hanfodol”.

“Mae’r stociau gwaed yn dda ar hyn o bryd, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’n rhoddwyr sy’n gwneud siwrneiau hanfodol i roi gwaed,” meddai.

“Dan amgylchiadau arferol, rydym yn trefnu sesiynau rhoi gwaed yn agos i ble mae ein rhoddwyr yn byw, ond nid yw’r rhain yn amgylchiadau arferol, felly rydym yn trefnu rhedeg ein rhaglen gasgliadau mewn llai o leoliadau.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n gymwys, a hoffai roi rhodd o waed a allai achub bywydau, i fynd i’n gwefan i ddod o hyd i apwyntiadau mewn canolfan rhoi gwaed rhanbarthol yn eu hymyl…”