Fe fydd gwasanaethau bws Megabus yng Nghymru a Lloegr yn dod i ben ddydd Sul, meddai Stagecoach sy’n berchen y gwasanaeth.

Yn ôl y grŵp trafnidiaeth mae llai o wasanaethau wedi bod ar gael yn sgil y coronafeirws, ac fe fyddan nhw’n dod i stop erbyn diwedd yr wythnos.

Fe fydd y gwasanaeth bysys yn parhau yn yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran Megabus bod nifer o gwsmeriaid eu gwasanaethau yn yr Alban yn teithio i’r gwaith i wneud swyddi hanfodol, fel gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

“Felly, yn yr Alban ry’n ni wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth yr Alban i barhau i gynnal y gwasanaethau bws.”

Fe fydd cwsmeriaid sydd eisoes wedi talu am deithiau yn cael ad-daliad, meddai Megabus.

Dywedodd cyfarwyddwr reolwr Megabus Mark Venables: “Ry’n ni’n ymddiheuro am yr anghyfleuster y bydd hyn yn ei achosi.

“Ry’n ni’n credu’n gryf mai’r penderfyniad i atal y gwasanaethau dros dro yw’r un cywir yn sgil yr amgylchiadau digynsail ar hyn o bryd ac rwy’n gobeithio y byddwch chi yn deall ein rhesymau i beidio cynnal y gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr.”

Roedd National Express hefyd wedi cyhoeddi ddydd Iau (Ebrill 2) eu bod nhw’n dod a’u gwasanaeth i ben ar ôl dydd Sul (Ebrill 5).