Mae fferyllwyr Cymru yn adrodd cynnydd mewn ymddygiad ymosodol gan y cyhoedd yn sgil y pandemig coronafeirws.

“Dwi wedi cael fy syfrdanu wrth glywed am bobol yn cam-drin fferyllwyr a hyd yn oed poeri arnynt,” meddai Cyfarwyddwr y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru, Elen Jones.

“Dwi hefyd wedi clywed am bobl yn cwffio tu allan i fferyllfeydd, dyw’r ymddygiad yma ddim yn dderbyniol.

“Dwi’n erfyn ar unrhyw un sydd angen ymweld â fferyllfa i fod yn amyneddgar a pharchus tuag at staff yn y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi mynd at yr heddlu gyda’i gofidion mewn ymdrech i sicrhau fod timau fferyllol ar draws y GIG yn cael eu gwarchod rhag ymddygiad ymosodol.

Maent yn annog y cyhoedd i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, sef:

  • Peidio ymweld â fferyllfa os yw unrhyw un o’ch teulu gyda thymheredd neud beswch parhaol.
  • Archebu presgripsiwn saith diwrnod o flaen llaw gan ddefnyddio ffurf electroneg neu focs gollwng i ail-archebu presgripsiwn.
  • Ychwanegu manylion cyswllt i bresgripsiwn fel bod fferyllfeydd yn gallu eich hysbysu pan fod meddyginiaeth yn barod.
  • Gofyn i aelod teulu, ffrind neu gymydog i nôl eich meddyginiaeth os ydych yn hunan ynysu.
  • Dod a cherdyn ID gyda chi a chadw pellter oddi wrth eraill wrth ddod i nôl presgripsiwn.

Newid trefn

Mae fferyllfeydd hefyd yn newid y ffordd maent yn gweithredu er mwyn amddiffyn staff yn erbyn coronafeirws gan annog y cyhoedd i ddod yn gyfarwydd gyda’r drefn newydd.

Mae’r drefn newydd yn cyfyngu ar y nifer o bobol sy’n cael bod tu mewn i fferyllfa ar yr un pryd, a dylai pawb sydd yn disgwyl aros dwy fedr oddi wrth ei gilydd.

Bydd fferyllfeydd yn agored ychydig yn hwyrach ac yn cau dros ginio er mwyn galluogi staff i “ddal i fyny” gyda’r niferoedd enfawr o bresgripsiynau sydd angen eu dosbarthu.

Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn gofyn i bawb sydd angen ymweld â fferyllfa i barchu’r newidiadau a’r staff.