Mae cwestiynau yn cael eu gofyn am rôl swyddogion iechyd yn Lloegr o ran methiant cytundeb i gyflenwi offer profi coronafeirws i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae’r ffrae wedi ffyrnigo ers iddi ddod i’r amlwg dros y penwythnos bod y cytundeb gyda Roche wedi methu.

Dywed y cwmni fferyllol nad oedd ganddyn nhw erioed “gytundeb gyda Chymru” i gyflenwi profion.

Mae Stephen Crabb AS, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simot Hart yn gofyn cwestiynau ynghylch y gytundeb rhwng Roche a Llywodraeth Cymru.

“Mae pobl Cymru angen sicrwydd bod llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl cornel o’r Deyrnas Unedig yn cael canran deg o’r offer profi,” meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wrth y Senedd ddydd Mercher (Ebrill 1) y dylai Roche wedi “anrhydeddu” y gytundeb i ddarparu 5,000 o brofion y dydd.

“Roedd gennym ni gytundeb gyda Roche ac rydym yn credu y dylai’r gytundeb honno wedi cael ei anrhydeddu,” meddai.

Tra bod arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw am fwy o wybodaeth.

“Er lles y cyhoedd, mae angen i Lywodraeth Cymru a Roche ddweud wrthym ni’n union beth ddigwyddodd i achosi’r gytundeb yna i fethu,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr: “Yn ddiweddar gofynnodd Llywodraeth y DU i ni sefydlu partneriaeth gyda Roche i gefnogi mwy o brofion diagnostig yn y DU ar gyfer Covid-19.

“Mae profion yng Nghymru sy’n defnyddio adnoddau Roche ar fin dechrau’r wythnos nesaf.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cytuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd unrhyw ofynion profi ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer Cymru yn y cyfamser yn cael eu cyflawni gennym ni.

“Ni wnaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr ymyrryd mewn unrhyw drafodaethau rhwng Roche a Chymru.”

Cefndir

  • Roedd y Llywodraeth wedi gobeithio medru darparu 6,000 o brofion bob diwrnod erbyn Ebrill 1, ond erbyn diwedd yr wythnos hon fyddan nhw ond yn medru darparu 1,100.
  • Ar ddechrau’r wythnos hon cyfaddefodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, bod cwmni a oedd fod i ddarparu 5,000 – bob diwrnod – wedi cefnu ar gytundeb a dryllio’r gobaith yna.
  • Bellach mae Mark Drakeford wedi datgelu mai Roche yw’r cwmni dan sylw. Mae cryn ddyfalu bod y cwmni wedi dewis archeb uwch GIG Lloegr dros archeb is GIG Cymru.
  • Llundain sy’n gyfrifol am archebion Cymru erbyn hyn, ac mae cwestiynau wedi codi ynghylch a fydd digon o brofion yn cael eu darparu yng Nghymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn gweithio ag ystod fwy amrywiol o gyrff – prifysgolion ac ati – yn sgil y siomedigaeth, ac er mwyn cael gafael ar ragor o brofion.
  • Mae 98 o bobol wedi marw yng Nghymru, tra bod 1,837 wedi profi’n bositif am y feirws