Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu llun o neuadd breswyl Pantycelyn ar ei newydd wedd.

Bydd llawer yn cofio décor hen ffasiwn yr adeilad – ei charpedi llwyd a’i llenni cochion – a’r graffiti ar hyd ei waliau a’i drysau.

Ond bellach mae’r brifysgol wedi dadorchuddio fersiwn cwbl wahanol o’r adeilad eiconig. Mae’r llun yn dangos ystafell golau a modern, sy’n gwbl wahanol i hen ystafelloedd yr adeilad.

Bydd y neuadd yn cynnig llety en-suite i hyd at 200 o fyfyrwyr, ac mae’r rheiny sydd yn dymuno byw yno bellach yn medru ceisio am le.

“Cyfleusterau gwych”

“Mae agor y cyfle nawr i wneud cais am le yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn ddatblygiad pwysig,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth:

“Heb os dyma neuadd breswyl fwyaf adnabyddus Cymru.  Mae ganddi gyfleusterau gwych ac awyrgylch cymunedol unigryw.

“Er yr amgylchiadau anodd ar hyn o bryd, mae’r gwaith adnewyddu yn cael ei gyflawni ar amser ac mae’n bwysig fod darpar fyfyrwyr yn archebu eu lle mor brydlon â phosib.”

Y cefndir

Mae hanes diweddar y neuadd wedi bod yn go dymhestlog a dweud y lleiaf.

Yn wreiddiol cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn bwriadu cau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr Cymraeg i lety newydd Fferm Penglais.

Fe fu protestio mawr gan UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) a Chymdeithas yr Iaith am hynny, ac arweiniodd hyn at dro pedol.

Bydd Neuadd Pantycelyn yn hwyr yn cael ei hagor – Medi 2019 oedd y dyddiad gwreiddiol – ac mae ei chost i fyfyrwyr (£5,512 y flwyddyn) yn fater dadleuol hefyd.