Fe rannodd Plaid Cymru glip fideo ar eu cyfrif Twitter neithiwr yn dangos gohebydd Sky News yn rhannu’r diweddaraf am y trafferthion wrth archebu pecynnau profi coronafeirws.

“Mae’n troi allan fod Gwasanaeth Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Lloegr” meddai’r gohebydd “wedi wynebu rhyw fath o ryfel bidio, rhyw fath o gystadleuaeth am becynnau profi.”

“Arswydwyd Llywodraeth Cymru i ddarganfod fod eu harcheb nhw wedi ei chanslo.

“Cynhaliwyd cyfarfod brys rhwng y Gweinidogion Iechyd o’r pedwar cenedl, a chanlyniad hyn oedd iddyn nhw ailfeddwl y ffordd mae’r pecynnau profi yn cael eu prynu o’r brif gyflenwyr.

“O hyn ymlaen, Whitehall fydd yn penderfynu beth fydd yn cael ei brynu ac i ble fyddan nhw’n cael eu dosbarthu, nid yn unig i Loegr ond i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd.”

Ymatebodd Adam Price i’r honiadau ar Twitter gan ddweud

“Dydi hyn yn bendant ddim yn rhoi hyder i mi y bydd anghenion Cymru yn cael eu bodloni.”

“Dylen nhw fod yn gandryll”

Ac mewn datganiad ar lein heddiw wrth ymateb i deimladau o “siom” Vaughan Gething fod y dêl wedi methu, meddai Plaid Cymru:

“Profi yw’r arf orau sydd ganddo ni i drechu’r pandemig yma wrth dracio a darganfod sut mae’r firws yn lledaenu, a sicrhau fod y gweithwyr iechyd a gofal yn cael eu gwarchod ac yn gallu mynd yn ôl i’r gwaith. Dylai Llywodraeth Cymru ddim bod  yn “siomedig”, dylen nhw fod yn “gandryll.”

Felly beth ddigwyddodd?

Mae peth amwyster o hyd ynghylch beth yn union aeth o’i le rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni creu profion, ond yn raddol bach mae rhagor o wybodaeth yn dod i’r fei:

  • Roedd y Llywodraeth wedi gobeithio medru darparu 6,000 o brofion bob diwrnod erbyn Ebrill 1, ond erbyn diwedd yr wythnos hon fyddan nhw ond yn medru darparu 1,100.
  • Ar ddechrau’r wythnos hon cyfaddefodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, bod cwmni a oedd fod i ddarparu 5,000 – bob diwrnod – wedi cefnu ar gytundeb a dryllio’r gobaith yna.
  • Bellach mae Mark Drakeford wedi datgelu mai Roche yw’r cwmni dan sylw. Mae cryn ddyfalu bod y cwmni wedi dewis archeb uwch GIG Lloegr dros archeb is GIG Cymru.
  • Llundain sy’n gyfrifol am archebion Cymru erbyn hyn, ac mae cwestiynau wedi codi ynghylch a fydd digon o brofion yn cael eu darparu yng Nghymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn gweithio ag ystod fwy amrywiol o gyrff – prifysgolion ac ati – yn sgil y siomedigaeth, ac er mwyn cael gafael ar ragor o brofion.