Mae Vaughan Gething wedi mynegi ei siom ar ôl i Lywodraeth Cymru fethu â sicrhau cytundeb i ddarparu 5,000 o brofion coronafeirws bob dydd.

Roedd cytundeb ysgrifenedig yn ei le, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, sy’n gwrthod enwi’r cwmni ar ôl i Roche ddod i gytundeb â Llywodraeth Prydain.

Mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd, dywedodd y byddai’r profion ychwanegol “wedi gwneud gwahaniaeth yn gynharach” yng Nghymru.

Ond mae’n dweud bod trafodaethau ar y gweill â sefydliadau preifat, y sector prifysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd i gynyddu’r gallu i gynnal mwy o brofion bob dydd.

Ei obaith yw cynyddu’r nifer i 5,000 o brofion bob dydd, a bydd 4,000 yn rhagor erbyn diwedd mis Mai fel rhan o drefniadau Llywodraeth Prydain.

Mae 1,563 o achosion bellach wedi’u cadarnhau yng Nghymru, gyda 69 o bobol bellach wedi marw.

Gwrthod enwi’r cwmni

Yn hytrach na rhoi sylw i’r cwmni roedd Llywodraeth Cymru’n gobeithio dod i gytundeb â nhw, mae Vaughan Gething yn dweud y byddai’n well ganddo ganolbwyntio ar y profion newydd.

“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn am hynny,” meddai am ei benderfyniad i wrthod enwi’r cwmni dan sylw.

“Ein nod yw sicrhau bod rhagor o brofion ar gael, a chanolbwyntio ar sicrhau hynny.

“Roedd gyda ni gytundeb clir i dîm y cwmni hwnnw ddod i Gymru i sefydlu’r isadeiledd oedd ei angen i ddarparu’r profion ychwanegol hynny.

“Dw i wastad wedi bod yn glir o ran fy siom nad yw hynny wedi digwydd.”

Galw am eglurhad

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i enwi’r cwmni ac i egluro pam fod y cytundeb wedi methu.

Mae’n dweud ei bod yn “anhygoel” fod y llywodraeth yn gwrthod eu henwi a pham fod y cytundeb wedi methu, gan gyfeirio at sïon mai ymyrraeth Llywodraeth Prydain sy’n gyfrifol.

“Ddylai Llywodraeth ddim bod yn siomedig – dylen nhw fod yn gandryll,” meddai.