Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw am roi’r flaenoriaeth i gynnal profion i bobol â symptomau difrifol y coronafeirws.

Maen nhw’n credu y bydd hyn yn lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 34 o achosion newydd o Covid-19 wedi’u cadarnhau yng Nghymru ddydd Sul (Mawrth 15) gan ddod â’r cyfanswm yn y wlad i 94, ond mae’r ffigwr sydd wedi’i gadarnhau wedi codi i 112 erbyn hyn.

“Fel blaenoriaeth, bydd profion yn ffocysu ar y sawl sydd â symptomau difrifol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn galluogi’r Gwasanaeth Iechyd i gael mwy o le i gynnal profion mewn ysbytai lle mae’r cleifion mwyaf bregus yn cael eu gofalu amdanynt.”