Mae Ffred Ffransis yn dweud bod y sefyllfa bresennol ym Mheriw, lle mae miloedd o bobol o wledydd Prydain yn dal yn sownd, yn arwydd o “feddylfryd Llywodraeth Brexit”.

Mae e a’i wraig Meinir newydd ddychwelyd adref i Lanfihangel-ar-arth wedi wythnosau o ansicrwydd tra’r oedden nhw’n sownd ym Mheriw.

Roedd y cwpl wedi ymddeol yn gynharach yn y flwyddyn a phenderfynon nhw fynd ar daith am bedair i bum wythnos i Batagonia, Periw a Bolifia.

Tra’r oedden nhw ym Mheriw, clywodd y cwpl ynghyd â miloedd o dwristiaid eraill, fod y ffiniau i gyd yn cau a bod ganddyn nhw 24 awr i adael y wlad.

“Doedd dim modd ymarferol o wneud hynny, felly penderfynon ni aros yn y gwesty,” eglura Ffred Ffransis wrth golwg360.

“Doedden ni ddim yn disgwyl bod yno am bythefnos.”

‘Cyngor bland iawn’

Mae Ffred Ffransis yn dweud ei fod yn dal yn feirniadol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab ar ôl cyrraedd adref.

“Mae’r ffeithiau yn aros, a hynny yw mai cyngor bland iawn oedd ymateb y Llywodraeth yn y dyddiau cyntaf, gan honni eu bod yn ceisio sefydlu un neu ddau o bosibiliadau,” meddai.

“Yna, gofynnodd y Llywodraeth wrth bawb i dalu £3,000 i gael hedfan adref gyda chwmni awyren ac wrth gwrs, roedd y rhan fwyaf yn gwrthod.”

Ond mae hefyd dweud bod ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “amaturaidd” o’i gymharu â gwledydd eraill.

“Erbyn y trydydd diwrnod, roedd Israel wedi llwyddo i gael miloedd o’u dinasyddion gartref, roedd Dominic Raab a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bell ar ei hôl hi.

“Dyma yw meddylfryd Llywodraeth Brexit, dim paratoadau, gwrthod cydweithio’n rhyngwladol, ac mae hyn o bosib yn arwydd o bethau i ddod.”

Cymro dal yn sownd ym Mheriw

Bellach wedi cael dod adref, mae Ffred a Meinir Ffransis eisoes wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau bod pawb arall o’r Deyrnas Unedig yn gallu dychwelyd yn ôl yn ddiogel hefyd.

Yn ôl Ffred Ffransis, mae un Cymro a naw Sais yn dal i fod mewn gwesty ym Mheriw ac yn byw mewn amgylchiadau “sy’n waeth na charchar”.

“Maen nhw’n cael eu cloi yn eu stafelloedd am 23 awr y dydd, ddim yn cael nôl bwyd gan mai’r llywodraeth yno sy’n ei ddarparu, mae’n waeth na bod mewn carchar.

“Mae llysgenadaethau gwledydd eraill wedi ceisio helpu ond dyw Prydain heb wneud dim byd.”

Gŵr o’r enw Alex Fowkes o ardal Wrecsam yw’r Cymro sydd dal yn styc yno, meddai.

“Byddwn yn ymgyrchu ar WhatsApp i geisio sicrhau hediad adref iddo.”