Mae cynghorau lleol yng Nghymru am gael pwerau arbennig i droi adeiladau’n ysbytai neu i godi strwythurau dros dro er mwyn ymateb i ymlediad y coronafeirws.

Fe fydd y cynllun newydd, sydd wedi’i gyhoeddi gan y Gweinidog Tai Julie James, yn cynyddu capasiti’r Gwasanaeth Iechyd i ymdrin â’r nifer cynyddol o achosion o’r feirws sy’n rhoi pwysau ar ysbytai.

Bydd y mesurau’n galluogi cynghorau lleol i newid pwrpas adeiladau heb orfod ceisio caniatâd cynllunio, a bydd rhaid dymchwel unrhyw strwythurau dros dro o fewn 12 mis neu byddai angen caniatâd cynllunio er mwyn mynd y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

‘Gwaith rhagorol’

“Mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru’n gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym ac mae’n hanfodol ein bod yn caniatáu iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau eang yn gyflym,” meddai Julie James.

“Mae llacio’r gofynion cynllunio arferol yn caniatáu i’r awdurdodau lleol gymryd camau cyflym i ymateb i anghenion lleol.

“Nid yw ond yn gwbl briodol, wrth gwrs, eu bod yn cynllunio ar gyfer yr argyfwng ond drwy aros gartref gallwn helpu i osgoi gorfod troi at y cynlluniau hyn.”