Mae sawl Aelod Seneddol yng Nghymru’n cefnogi llythyr sydd wedi cael ei lunio gan aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw am iawndal i weithwyr y rheng flaen sy’n ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Mewn neges ar Twitter, dywed Layla Moran fod “ein diolchgarwch.. yn ddi-derfyn”, a’u bod nhw’n “haeddu’r sicrwydd a’r cysur”  y byddai Cynllun Iawndal yn ei roi iddyn nhw.

Mae’r llythyr yn nodi eu bod nhw’n “peryglu eu bywydau” ac nad oes “cymaint o gydnabyddiaeth iddyn nhw ag y dylai fod”.

Mae’n galw am roi iawndal yn enw unrhyw un sy’n marw wrth drin cleifion sydd wedi’u heintio, a hynny ar ben unrhyw fuddiannau a ddaw yn sgil cynlluniau pensiwn.

Mae’r llythyr yn galw am ailadrodd cynllun y Lluoedd Arfog drwy gynnig:

  • un taliad ymlaen llaw;
  • sicrwydd o incwm i’w teuluoedd; a
  • taliadau i blant cymwys o dan 18 oed

Ymhlith y rhai o Gymru sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe.