Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, yn rhybuddio trigolion yr ardal i fod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o droseddau seibr yn sgil y coronafeirws.

Daw’r rhybudd ar ôl i Action Fraud UK gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf fod yna gynnydd o 400% o dwyll yn gysylltiedig â’r feirws.

Rhwng Chwefror 1 a Mawrth 18, derbyniodd Action Fraud 105 o adroddiadau gan ddioddefwyr twyll oedd yn gysylltiedig â’r coronafeirws, gan wneud colledion o hyd at £970,000.

Mae’r rhan fwyaf o adroddiadau yn cyfeirio at sgamio siopa ar-lein lle mae pobol wedi prynu masgiau wyneb, cynnyrch golchi dwylo a chynnyrch eraill na chyrhaeddodd gartrefi pobol.

Mathau eraill o dwyll sydd yn cael eu hadrodd ydi twyll tocynnau, twyll rhamant, twyll elusennau a thwyll benthyciadau.

Mae dros 200 o adroddiadau hefyd o dwyll yn gysylltiedig ag e-byst, sy’n ceisio twyllo pobol i agor atodiadau maleisus sydd yn galluogi twyllwyr i ddwyn gwybodaeth bersonol, mewngofnodion e-bost, cyfrineiriau a manylion banc.

“Peidiwch â chael eich twyllo”

“Gall troseddwyr ddefnyddio’r coronafeirws i’ch twyllo chi i drosglwyddo arian a gwybodaeth bersonol,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Efallai y gwnân nhw gynnig eich profi chi am y firws, cynnig brechlyn neu ofyn am gyfraniad i elusen coronafeirws.

“Peidiwch â chael eich twyllo i roi eich manylion personol neu ariannol i dwyllwyr dros y ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb.

“Cymerwch bump, ystyriwch ddwy waith, ystyriwch dwyll.”