Mae prifysgolion yn helpu’r frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy ddarparu adnoddau, cyfarpar ac arbenigedd.

Yn ogystal â gwarchod eu staff eu hunain, mae’r prifysgolion yn cynnig cefnogaeth trwy ddarparu cyfarpar meddygol, hyfforddiant clinigol, adnoddau ar-lein ac ymchwil i’r feirws.

Maen nhw hefyd wedi rhoi cyfarpar diogelu personol i ysbytai Cymru, ac yn cynnig gofod mewn adeiladau i fyrddau iechyd er mwyn cynyddu capasiti a rhoi llety i staff y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r adnoddau ar-lein sy’n cael eu creu yn cynnwys deunyddiau er mwyn goresgyn unigrwydd a’r teimlad o fod wedi’i ynysu.

Enghreifftiau o ymateb y prifysgolion i’r feirws

Dyma grynodeb o’r hyn mae prifysgolion Cymru’n ei wneud:

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhoi’r defnydd o adeilad meithrinfa er mwyn cynyddu capasiti Ysbyty Bronglais, ac mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael aros yn llety’r brifysgol.
  • Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleusterau rhoi gwaed a chyfarpar labordy i brofi samplau, yn ogystal â gofod ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, ffisiotherapi resbiradol arbenigol a hyfforddiant arall ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd.
  • Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi sefydlu Canolfan Waed ar gampws Llandaf, ac wedi rhoi peiriannau er mwyn profi ar gyfer y feirws, ac mae labordy arbenigol yn ymchwilio i gynhyrchu a chreu prototeip ar gyfer cydrannau peiriannau a pheiriannau diagnostig yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
  • Mae Prifysgol Caerdydd yn sicrhau bod myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd yn cymhwyso’n gynt na’r disgwyl er mwyn cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae 300 o fyfyrwyr wedi cofrestru fel gwirfoddolwyr iechyd. Mae’r brifysgol hefyd yn rhan o gonsortiwm sy’n mapio ymlediad y feirws.
  • Mae’r Brifysgol Agord yng Nghymru’n cydweithio â Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Caerdydd i adnabod adnoddau all helpu athrawon i gefnogi myfyrwyr ar-lein.
  • Mae canolfan hyfforddi sgiliau clinigol a labordy sgiliau clinigol Prifysgol Abertawe yn Ysbyty Treforys wedi’u rhoi i’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae cyfleusterau 3D y brifysgol yn cael eu defnyddio i brintio cydrannau peiriannau anadlu, tra bod bydwragedd a pharafeddygon dan hyfforddiant am gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.
  • Mae fideos hyfforddiant wedi cael eu ffilmio ym Mhrifysgol De Cymru i ddangos i staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd sut i ddefnyddio peiriannau anadlu, ac mae’r brifysgol yn helpu byrddau iechyd i roi hyfforddiant ar ofal critigol i staff y Gwasanaeth Iechyd.
  • Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyfrannu at brosiectau sy’n helpu’r Gwasanaeth Iechyd i ymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys datblygu mygydau anadlu a chreu peiriant anadlu sy’n gallu cael ei gynhyrchu’n lleol.
  • Mae staff sy’n dysgu cyrsiau iechyd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd i hyfforddi ym maes gofal resbiradol clinigol, ac mae trafodaethau ar y gweill ag Ysbyty Maelor i gynnig llety tymor byr i weithwyr allweddol.

‘Rôl hanfodol’

“Mae prifysgolion yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi cymunedau a’r economi yng Nghymru, ac mae’n wych gweld pa mor gyflym mae’r sector wedi ymateb i roi eu cefnogaeth yn y sefyllfa bresennol,” meddai’r Athro Julie Lydon, cadeirydd Prifysgolion Cymru.

“Gyda’u hystod eang o adnoddau ac arbenigedd, mae ein prifysgolion yn y sefyllfa berffaith i helpu’r Gwasanaeth Iechyd a chymunedau i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi o’r argyfwng Covid-19 nawr ac yn y dyfodol.”