Mae 14 yn rhagor o bobl wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru gan ddod a’r cyfanswm i 62.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod 1,451 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19, cynnydd o 1,241 ddoe (Dydd Sul, Mawrth 29).

Ond mae’n debyg bod nifer yr achosion yn llawer uwch gan fod y profion yn cael eu cyfyngu i weithwyr a chleifion y Gwasanaeth Iechyd yn unig ar hyn o bryd.

Yn y Deyrnas Unedig mae cyfanswm y marwolaethau bellach wedi cyrraedd 1,415.