Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford heddiw (Mawrth 30) y bydd yna gyllid o £500m er mwyn cefnogi economi Cymru, busnesau ac elusennau sydd yn wynebu heriau o ganlyniad i’r coronafeirws.
Bydd y gronfa newydd yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar y rhai sydd ddim wedi elwa o’r grantiau sydd wedi eu cyhoeddi yn barod gan Lywodraeth Cymru.
Y Gronfa
Mae’r gronfa wedi cael ei gwneud o ddwy brif elfen:
- Bydd cronfa newydd Banc Datblygu Cymru gwerth £100m ar gael i gwmnïau sy’n wynebu problemau ariannol o ganlyniad i’r pandemig a bydd benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 gyda graddfa llog ffafriol
- Bydd busnesau hefyd yn medru elwa o bot argyfwng gwerth £400m fydd yn darparu:
- Grantiau o £10,000 i fusnesau micro sydd yn cyflogi hyd at naw o bobl.
- Grantiau hyd at £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o weithwyr.
- Cefnogaeth i gwmnïau mwy yng Nghymru, sydd o bwys cymdeithasol ac economaidd mawr i Gymru.
‘Effeithio ein heconomi yn eithriadol’
“Mae’r cyflymdra y mae’r coronafeirws yn effeithio ein heconomi yn eithriadol,” meddai Mark Drakeford.
“ Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r economi a busnes.
“Mae’r cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Prydain yn darparu diogelwch angenrheidiol i nifer o weithwyr a’u teuluoedd yng Nghymru. Dim ond Llywodraeth Prydain sydd â’r gallu ariannol a macro-economaidd i leihau’r niwed anferthol y mae cau lawr yr economi am ei wneud i economi Prydain.
“Ond hyd yn oed gyda’r ymyrraeth yma, mae yna elfennau yn yr economi, busnesau ac elusennau yng Nghymru sy’n wynebu methdaliadau oherwydd costau wedi eu gosod a chostau gweithredu – rhent, costau cyflogau dros ben, costau rhentu offer angenrheidiol a chynnal gweithrediadau – nid oes posib eu cyflawni yn ystod yr argyfwng yma.”
Nod y Gronfa Cadernid Economaidd yw cau bylchau’r cynlluniau cefnogi sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.
Bydd y gronfa newydd gwerth £500m yng Nghymru yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rhai nad ydynt wedi elwa eisoes o’r grantiau coronafeirws sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae’r cyflymder y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar ein heconomi ni’n rhyfeddol. Nawr, yn fwy nag erioed, rhaid i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r economi a busnes.
“Mae cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU wedi darparu’r warchodaeth y mae ei gwir angen i lawer o weithwyr a’u teuluoedd yng Nghymru. Dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r dylanwad macro-economaidd ac ariannol i leihau’r difrod enfawr y bydd y cau economaidd hwn yn ei wneud i economi’r DU.
“Ond hyd yn oed gyda’r ymyriadau hyn, mae elfennau o’r economi, busnesau ac elusennau yng Nghymru’n wynebu ansolfedd oherwydd na all costau sefydlog a gweithredol – rhent, costau cyflog gweddillol, ffioedd prydlesu ar gyfer offer hanfodol a chynnal gweithredoedd – gael eu talu yn ystod yr argyfwng hwn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth Cymru i lenwi’r bylchau a chefnogi’r economi a busnesau yn ystod y cyfnod eithriadol anodd yma.
“Mae’r pecyn yma o gefnogaeth yn rhoi sicrwydd pellach i gwmnïau, elusennau a mentrau cymdeithasol y byddwn ni’n gwneud hynny – eu helpu i ddelio gydag effaith economaidd y pandemig.”
Mae’r gronfa gwerth £500m yn cynnwys dwy brif elfen:
- Bydd cronfa newydd Banc Datblygu Cymru gwerth £100m ar gael i gwmnïau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig a bydd yn darparu benthyciadau sydd rhwng £5,000 a £250,000 gyda chyfraddau llog ffafriol.
- Hefyd bydd busnesau’n gallu elwa o bot argyfwng gwerth £400m yn darparu’r canlynol:
- Grantiau o £10,000 ar gyfer micro-fusnesau sy’n cyflogi hyd at naw o bobl. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais erbyn canol mis Ebrill.
- Grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o gyflogeion. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais o’r wythnos nesaf ymlaen.
- Cefnogaeth i gwmnïau mwy yng Nghymru, sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol i Gymru. Bydd yr elfen hon yn agored i fusnesau cymwys yn ystod y pythefnos nesaf.
Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500m yn cefnogi busnesau sy’n cael eu gorfodi i roi’r gorau i fasnachu dros dro neu sydd angen cefnogaeth llif arian i addasu i ffordd o weithio o bell.
“Eithriadol heriol”
Mae’r gronfa newydd yn adeiladu ar y pecyn cefnogi busnes gwerth £1.4bn sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar Fawrth 18, sy’n darparu gwyliau gostyngiad ardrethi am flwyddyn gyfan i bob eiddo heblaw am yr eiddo mwyaf yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden a chymorth grant i fwy na 70,000 o fusnesau bach.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Bydd y pecyn gwerth £500m hwn yn darparu cymorth hanfodol pellach i filoedd o gwmnïau a sefydliadau’r trydydd sector, sydd fel rheol yn dibynnu ar incwm masnachu.
“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn, rydyn ni yma i gefnogi’r economi a’r gymuned fusnes. Rydyn ni’n sefyll gyda phob busnes a gweithiwr. Gyda’n gilydd fe ddown ni drwy’r cyfnod eithriadol heriol yma.”