Jonathan Edwards
 Mae Aelod Seneddol o Blaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o wario arian trethdalwyr Cymru ar ymgyrchoedd sy’n hyrwyddo busnesau o Loegr.

 Er bod Buddsoddiadau a Masnach y Deyrnas Unedig (UKTI) yn derbyn arian gan drethdalwyr er mwyn cynrychioli busnesau ar draws pob un o wledydd Prydain, nid yw Cymru yn cael ei chynrychioli’n deg yn ôl Jonathan Edwards o Blaid Cymru.

 “Rydyn ni ar hyn o bryd yn cyfrannu tuag at system y Deyrnas Unedig sy’n gweithio yn erbyn ein buddiannau gorau, trwy hyrwyddo rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig droston ni,” meddai’r Aelod Seneddol. “Dydi hynny ddim yn dderbyniol,” ychwanegodd.

 “Mae gan UKTI swyddfeydd mewn naw ardal gwahanol yn Lloegr, yn Llundain ac yn yr Alban, ond does dim un yng Nghymru,” meddai Jonathan Edwards.

 “Mae hyn yn rhoi Cymru ar anfantais fawr wrth hyrwyddo ein hallforion trwy gorff sy’n honni i fod yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig i gyd.”

Colli allan ar swyddi da

  Ym mis Medi eleni, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig wedi i gwmni Jaguar Land Rover gyhoeddi eu bod wedi dewis safle yng nghanolbarth Lloegr dros safle yn ne Cymru er mwyn adeiladu ffatri fyddai’n creu 750 o swyddi newydd.

Mae Llywodraeth Prydain a’r UKTI yn saff o ffafrio Lloegr mewn sefyllfa o’r fath, yn ôl AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

 “Fel welon ni gyda ffatri Jaguar, a ymsefydlodd yng nghanolbarth Lloegr yn hytrach nag yng Nghymru, gallwn ni ddim dibynnu ar Lundain er mwyn edrych ar ôl buddiannau Cymru,  os nad yw’n llywodraeth ni’n fodlon sefyll lan drostyn nhw eu hunain,” meddai Jonathan Edwards.

 

Pwyso am well i Gymru

 

Ddoe fe ofynnodd Jonathan Edwards i’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, pa gamau oedd yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod Buddsoddiadau a Masnach y Deyrnas Unedig (UKTI) yn hyrwyddo busnesau yng Nghymru.

 

“Does gan Fuddsoddiadau a Masnach Y Deyrnas Unedig ddim presenoldeb yng Nghymru,” meddai yn siambr San Steffan, “felly pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau fod UKTI yn gwneud ei orau i hyrwyddo allforion o Gymru?”

 

Dywedodd Vince Cable ei fod “eisoes wedi siarad gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â chael mwy o fusnesau o Gymru wedi eu cynrychioli ar ymgyrchoedd UKTI a phrosiectau o’r math yna.”

 

Ond ychwanegodd fod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau yn y maes yma, “ond mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac fe fydda i’n gwneud fy ngorau i geisio cyd-weithio â Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo allforion”.

Catrin Haf Jones