O heddiw ymlaen, (dydd Llun, Mawrth 30) ni fydd unrhyw fwletinau newyddion lleol yn cael eu darlledu yn ystod rhaglen BBC Breakfast.

Yn ôl y BBC, trefniant dros dro yw hyn gan eu bod yn gorfod ystyried lefelau staffio a’r hyn sy’n bosib i’w ddarparu o dan yr amgylchiadau presennol.

Mae’r penderfyniad yn un dros wledydd Prydain gyfan, felly ni fydd bwletin o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Mae’r BBC am argyhoeddi eu cynulleidfa bod modd  parhau i gael newyddion gan BBC Cymru drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru rhwng 7 a 9 (hanner awr ychwanegol bellach er mwyn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau i arbenigwyr)
  • Rhaglen newyddion brecwast ar BBC Radio Wales rhwng 6.30 a 8.30
  • Y newyddion diweddara’ ar BBC Cymru Fyw ac ar BBC News Online

‘Pwysau staffio’

Dywed llefarydd ar ran y BBC: “Nid ar chwarae bach y bu i ni gymryd y penderfyniad i beidio darlledu bwletinau newyddion lleol yn ystod rhaglen Breakfast ond mae pwysau staffio yn golygu fod rhaid i ni wneud peth newidiadau.

“Drwy wneud hyn gallwn sicrhau ein bod yn gallu canolbwyntio’n adnoddau ar y bwletinau am 1.30pm, 6.30pm a 10.30pm ar BBC One a’r ystod o newyddion ar BBC Radio Cymru, Radio Wales ac ar lein.”