Mae Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafan, wedi cael ei geryddu gan Heddlu’r De am deithio i dŷ ei dad, yr Arglwydd Neil Kinnock.

Daw hyn ar ôl iddo drydar bod ei dad yn dathlu ei ben-blwydd yn 78 oed, a’i fod e a’i wraig Helle Thorning-Schmidt, prif weinidog Denmarc, wedi ymweld â’i rieni.

Yn sgil y coronafeirws, mae pobol yn cael eu gorchymyn i osgoi teithio oni bai bod rhaid ac mae’r rheolau wedi’u rhoi ar frig tudalen Twitter Stephen Kinnock.

“Aeth @HelleThorning_S [ei wraig] a fi ag ambell i gadair draw, ac eistedd yn eu gardd ffrynt ar gyfer dathliad o bellter. Fel rydych chi’n ei wneud. Pen-blwydd hapus, mêt,” meddai’r neges ar Twitter.

‘Ddim yn deithio hanfodol’

Yn ôl Heddlu’r De, wrth iddyn nhw ymateb i’r neges, doedd pen-blwydd ei dad ddim yn cyfri fel rheswm “hanfodol” ar gyfer teithio.

“Helo @SKinnock,” meddai’r neges gan yr heddlu.

“Rydyn ni’n gwybod fod dathlu pen-blwydd eich tad yn beth hyfryd i’w wneud, fodd bynnag nid yw hyn yn deithio hanfodol.

“Mae gennym oll ran i’w chwarae yn hyn, rydym yn eich annog i gydymffurfio â chyfyngiadau @GOVUK, maen nhw yn eu lle i’n cadw ni’n ddiogel. Diolch.”

Cyfiawnhad

Ond wrth gyfiawnhau’r daith, dywed Stephen Kinnock ei fod e’n “gollwng nwyddau hanfodol” i’w rieni.

“Ro’n i’n teimlo bod hon yn daith hanfodol gan fod rhaid i fi ollwng nwyddau hanfodol i’m rhieni,” meddai wrth ymateb i’r cerydd.

“Fe wnes i aros yn ddigon hir i ganu Pen-blwydd Hapus i Dad, ac wedyn i ffwrdd â fi.

“Cofion, Stephen.”