Mae gwefan newydd fydd yn caniatáu i denantiaid tai cymdeithasol gyfnewid eu tŷ presennol am gartref mewn rhan arall o Brydain, yn fygythiad enfawr i gymunedau Cymraeg.

Dyna mae Cymdeithas yr Iaith yn ei ddweud, wrth ymateb i gynllun Llywodraeth Prydain i’w gwneud yn haws i symud tŷ er mwyn chwilio am waith.

O fis Ebrill ymlaen fe fydd hi’n orfodol ar gynghorau sir a chymdeithasau tai i gynnig cyfran o dai ar gyfer eu cyfnewid.

Ond nid yw’r cynllun Home Swap Direct at ddant y mudiad iaith.

“Mae’r cynlluniau yma yn fygythiad enfawr i gymunedau Cymraeg,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

 “Holl bwrpas y cylluniau yma yw annog pobl i adael eu cymunedau er mwyn chwilio am waith, yn hytrach na wynebu’r her o greu a diogelu cymunedau cynaliadwy a chynnig swyddi addas i bobl yn y cymunedau hynny. Unwaith y bydd toriadau’r Llywodraeth yn dechrau brathu’r sector gyhoeddus, bydd teuluoedd ifanc sydd yn byw mewn tai cymdeithasol yn cael eu hannog i adael eu cymunedau er mwyn symud i ddinasoedd Lloegr.

“Mae’n dangos hyfdra anhygoel ar ran y Llywodraeth Dorïaidd i gyhoeddi’r fath yma o gynllun o ystyried bod tai a datblygu economaidd yn feysydd datganoledig. Ers blynyddoedd, mae’r angen i ystyried y Gymraeg mewn datblygiadau cynllunio wedi cael ei gydnabod yn eang yng Nghymru, yn enwedig wrth i bolisi TAN20 gael ei drafod. Mae cynllun Home Swap Direct yn her gyfansoddiadol amlwg ac uniongyrchol, a galwn ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i ymyrryd yn y mater yma ar frys.

“Mae’r cynllun hwn yn hybu’r union brosesau sydd wedi arwain at grebachu yn y cymunedau traddodiadol Cymraeg dros y tri degawd diwethaf ac yn gorfodi Awdurdodau Lleol i gyfrannu at dranc eu cymunedau.”