Mae pedwar claf arall wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau i 38.

Mae 172 o achosion newydd wedi cael eu cadarnhau heddiw, dydd Sadwrn 28 Mawrth, o gymharu â 180 ddoe.

“Mae cyfanswm yr achosion sydd wedi cael eu cadarnhau bellach yn 1093, er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch,” meddai Dr Robin Howe, pennaeth ymateb i achosion coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae’r feirws yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru a’r cam pwysicaf y gall pawb ohonom ei gymryd yw aros adref i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd, ac arbed bywydau.”

Mae ychydig llai na hanner yr holl achosion sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain (482), a thua chwarter arall (256) yn nalgylch Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae’r niferoedd yn is ar hyn o bryd yn ardaloedd byrddau iechyd y gogledd a’r gorllewin – Betsi Cadwaladr (64), Hywel Dda (54) a Powys (19).