Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai mam a mab oedd y ddau a gafodd eu darganfod yn farw mewn tŷ yn Stryd Fawr Abergwili, Caerfyrddin nos Iau.

Maen nhw’n parhau i ymchwilio i farwolaethau Gwendoline a John Bound, ac yn eu trin fel rhai diesboniad. Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw’n cysylltu eu marwolaethau â’r coronafeirws ar hyn o bryd.

Mewn datganiad dywed y teulu:

“Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth John David Bound a Gwendoline Christine Bound.

“Mae’r teulu’n dymuno i’w preifatrwydd gael ei barchu yn eu galar.”